Os ydych yn troi at wefan y BBC neu Apiau Newyddion a Chwaraeon y BBC y tu allan i’r DU (y “Gwasanaethau Rhyngwladol”), fe welwch chi hysbysebion masnachol, argymhellion am gynnwys a micro-wefannau hysbysebwyr (“Hysbysebion”). Mae Hysbysebion yn ein galluogi i gynhyrchu incwm i helpu i ariannu gwasanaethau’r BBC ac i sicrhau eu bod ar gael i chi y tu allan i'r DU.
Os ydych yn y DU ac yn gallu gweld Hysbysebion, neu os ydych y tu allan i’r DU a’ch bod wedi gweld Hysbysebion, sydd, yn eich barn chi, yn amhriodol ar y Gwasanaethau Rhyngwladol, darllenwch y Cwestiynau Cyffredin am gyngor. Fel arall, gallwch gysylltu â BBC Studios (sy’n gyfrifol am hysbysebu) drwy: https://www.bbcstudios.com//-us/.
Hysbysebu ar Wasanaethau Rhyngwladol
BBC Studios, cangen fasnachol y BBC, sy’n gyfrifol am yr Hysbysebion a welwch ar y Gwasanaethau Rhyngwladol. Yn dibynnu ar eich gosodiadau cwcis a data, efallai y bydd rhai o’r Hysbysebion hyn wedi’u personoli yn seiliedig ar wybodaeth sy'n hysbys neu'n cael ei chasglu amdanoch chi a'ch diddordebau. Mae'r personoli hwn yn ein helpu i ddangos Hysbysebion mwy perthnasol i chi. Mae hefyd yn golygu y gallwn dderbyn mwy o refeniw wrth ein hysbysebwyr, gan ganiatáu i ni fuddsoddi mwy mewn cynnwys gwych.
Byddwn hefyd yn dangos Hysbysebion i chi sy'n berthnasol i'r cynnwys rydych chi'n ei ddefnyddio (hysbysebu cyd-destunol). Er enghraifft, os ydych yn darllen erthygl am deithio yna efallai y byddwn yn dangos Hysbysebion ar gyfer cwmnïau hedfan.
I greu proffil hysbysebu ar gyfer personoli, defnyddir dynodwyr unigryw (IDs) i wahaniaethu rhwng eich dyfais chi ac eraill - fel ID sy'n cael ei storio gan gwci, neu'ch ID Hysbysebu ar Ddyfeisiau Symudol (cod unigryw a osodwyd gan system weithredu eich ffôn symudol). Gallwch optio allan o'r ID hyn sy'n cael eu defnyddio ar gyfer personoli hysbysebion drwy ddilyn y cyfarwyddiadau isod.
Yn fras, caiff ein hysbysebu ei reoli mewn dwy ffordd:
1. Yn fewnol gyda chymorth proseswyr data wedi’u contractio
Mae ein hysbysebu premiwm yn cael ei reoli'n fewnol drwy ddefnyddio platfform a ddarperir gan Permutive, platfform hysbysebu arbenigol sy'n canolbwyntio ar breifatrwydd. Mae'r platfform yn cael ei lywio gan ein data “parti cyntaf” ein hunain yr ydym wedi'i gasglu gennych chi neu'ch dyfais. Mae'r data hwn yn cynnwys gwybodaeth gofrestru a gesglir pan fyddwch yn cofrestru ar gyfer ein gwasanaethau (e.e. Cyfrif y BBC), data sy’n seiliedig ar yr hyn rydych yn ei ddefnyddio tra’n defnyddio ein gwasanaethau (e.e. erthyglau a ddarllenwyd, hysbysebion y cliciwyd arnyn nhw), gwybodaeth dechnegol (e.e. porwr, dyfais a Darparwr Gwasanaeth Rhyngrwyd) a'ch lleoliad (ar lefel gwlad). Yna rydym yn defnyddio'r data hwn i'ch rhoi mewn carfannau gyda defnyddwyr eraill sydd â nodweddion a rennir (oedran, diddordebau). Yna defnyddir y carfannau hyn i ddewis Hysbysebion perthnasol i'w dangos i chi.
Weithiau byddwn yn gweithio'n uniongyrchol gyda'n cleientiaid hysbysebu i'w galluogi i ddefnyddio data eu cwsmeriaid eu hunain i bersonoli eu Hysbysebion. Gallan nhw wneud hyn drwy baru data â chwsmeriaid hysbys neu chwilio am gwsmeriaid ‘tebyg’ sy’n seiliedig ar nodweddion tebyg. Pan fyddwn yn gwneud hyn, rydym yn defnyddio technolegau arbenigol i gadw data ar wahân ac yn ddiogel, ac nid ydym yn rhannu nac yn cyfoethogi ein setiau data ein hunain yn uniongyrchol drwy'r broses hon.
Rydym hefyd yn gweithio gydag arbenigwyr i wneud yn siŵr bod pobl go iawn (nid bots) yn gweld Hysbysebion, ac i sicrhau bod ein gwefan yn ddiogel.
Nid ydym yn rhannu eich data cofrestru neu “garfannau” gyda hysbysebwyr nac unrhyw un arall (ac eithrio ein cyflenwyr contract sy'n prosesu data o dan ein cyfarwyddyd).
2. Masnachu hysbysebu awtomataidd a phersonoli
Rydym ni a’n hysbysebwyr hefyd yn gweithio gydag amrywiaeth o gwmnïau hysbysebu a data (“Gwerthwyr Hysbysebu”) i ddangos Hysbysebion i chi, wedi’u personoli a heb eu personoli. Mae hyn yn cynnwys platfformau a rhwydweithiau arbenigol i: werthu ein gofod hysbysebu mewn arwerthiannau ar-lein, dethol a chyflwyno'r Hysbysebion a chasglu a rheoli'r data sydd ei angen i bersonoli Hysbysebion. Yn gyffredinol, bydd y cwmnïau hyn yn gweithredu fel rheolwyr data ar wahân neu gallan nhw fod yn gweithredu o dan gyfarwyddyd eu cleient hysbysebu yn hytrach na ni.
Bydd Gwerthwyr Hysbysebu yn defnyddio data a rennir gan eich dyfais ochr yn ochr â data proffil a gasglwyd o'ch arferion pori ar y rhyngrwyd a gwybodaeth marchnata a allai fod ganddyn nhw amdanoch chi. Gweler Cwestiynau Cyffredin 1 a 2 am fwy.
Gosodiadau Personoli Hysbysebion
Gallwch reoli eich cwcis a’r defnydd o’ch data ar gyfer hysbysebu wedi’i bersonoli fan hyn, neu drwy glicio ar y ddolen Peidiwch â rhannu neu werthu fy ngwybodaeth yn y troedyn ar bob tudalen ar BBC.com. Gallwch hefyd optio allan drwy newid gosodiadau eich porwr neu ddyfais. Gallwch ddysgu sut i wneud hyn yng Nghwestiwn Cyffredin 7 isod.
Os byddwch yn optio allan neu'n gwneud unrhyw newidiadau i osodiadau eich porwr, efallai y byddwch yn dal i weld Hysbysebion nad ydynt yn rhai cyd-destunol sydd wedi’u personoli. Efallai y byddwn hefyd yn defnyddio eich cyfeiriad IP i ddangos yr Hysbysebion hyn, i fesur eu heffeithiolrwydd, i gyfyngu ar faint o weithiau rydych chi'n gweld hysbyseb ac i sicrhau bod pobl, nid robotiaid, yn gweld yr hysbyseb.
Os ydych yn yr AEE, pan wnaethoch chi ddefnyddio’r Gwasanaethau Rhyngwladol am y tro cyntaf, byddwn wedi gofyn am eich caniatâd i ddefnyddio cwcis a data at ddibenion masnachol. Byddwn yn adnewyddu’r caniatâd hwn yn awtomatig bob 12 mis neu’n gynt os (i) byddwn yn ychwanegu Gwerthwyr Hysbysebu newydd at y gwasanaethau, (ii) rydych chi neu’ch porwr yn dileu’r cwci sy’n storio eich dewis neu (iii) ar adegau pan fydd angen i ni ddiweddaru ein technoleg neu ddarparwr technoleg.
Gosodiad Personoli Cyfrif BBC
Gall defnyddwyr sydd wedi mewngofnodi hefyd optio allan o ddefnyddio data cofrestru at ddibenion hysbysebu drwy ddiffodd y personoli yng ngosodiadau eu Cyfrif fan hyn: https://.bbc.com//settings/privacy.
Cwestiynau Cyffredin