Mae Alys Mathers yn Therapydd Tra-arbenigol ym maes Lleferydd ac Iaith, ac mae hi’n gweithio gyda phlant sydd ag ystod eang o anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu.
Yma mae hi’n esbonio sut mae dod o hyd i gymorth ar gyfer eich plentyn, a sut i ymddiried yn eich greddf fel rhiant…
“Mae fy mhlentyn i newydd ddweud ‘mama’”, “Wel, mae fy mhlentyn i'n gofyn am gael mynd i’r toiled yn iawn, ac hefyd yn cofio dweud 'plîs'…”
P’un ai eu bod yn teimlo balchder neu’n awyddus i rannu, mae pob rhiant wrth eu bodd yn siarad am y sgiliau mae eu plentyn yn eu dysgu. Ond beth os nad yw’ch plentyn yn dysgu siarad yn yr un ffordd, neu ar yr un cyflymder, â phlant eraill?
Yn gyntaf, ac yn bwysicaf oll, peidiwch â phoeni. Mae’n naturiol cymharu gydag eraill, ond mae pob plentyn yn unigryw.

Mae rhai plant sydd ychydig yn hŷn yn dechrau siarad yn dal i fyny heb unrhyw help ychwanegol, ac mae'r ffordd rydych chi’n chwarae ac yn siarad gyda’ch gilydd gartref yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr.
Chi sy’n adnabod eich plentyn orau, a bydd treulio amser yn chwarae gyda’ch gilydd yn eich helpu chi i ddysgu sut yn union mae’ch plentyn yn cyfathrebu, ac i benderfynu a oes angen mwy o help arnoch chi. Dylech chi ymddiried yn eich greddf, a gofyn i chi’ch hun:
- Ydy sgiliau fy mhlentyn yn datblygu mewn rhyw ffordd, hyd yn oed os nad yw hynny’n digwydd yr un mor gyflym â phlant eraill?
- Ydy fy mhlentyn yn cyfathrebu â mi mewn ffyrdd ar wahân i ddefnyddio geiriau?
- Ydy fy mhlentyn yn deall beth dw i'n ei ddweud, hyd yn oed pan nad oes unrhyw gliwiau eraill, fel pwyntio neu ystumiau?
Os mai ‘ydy’ ydy’ch ateb i’r cwestiynau uchod, mae hyn yn arwydd da, ond efallai y byddwch chi’n dal am roi cynnig ar rai o’r awgrymiadau isod.
Os ydych chi’n ansicr, a bod trafferthion cyfathrebu'ch plentyn yn amharu ar fywyd bob dydd, fe allai fod yn amser da i ofyn am help.
Cynyddu’ch rhwydwaith cymorth
Mae teulu a ffrindiau sydd ddim yn gweld eich plentyn bob dydd yn gallu bod yn help mawr o ran sylwi ar bethau mae’ch plentyn wedi dysgu eu gwneud nad ydych chi efallai wedi sylwi arnynt, oherwydd eich bod wedi arfer cymaint gydag arferion eich plentyn. Gallai hyn olygu bod eich plentyn yn dweud gair ychydig yn gliriach nag yr oedd yn arfer ei wneud, neu ei fod yn copïo’ch symudiadau chi.
Os ydych chi’n poeni am eich plentyn, byddwch yn teimlo ystod eang o emosiynau – cariad, tristwch, dicter, euogrwydd…
Peidiwch â delio â hynny ar eich pen eich hun. Siaradwch â phobl rydych chi’n ymddiried ynddyn nhw, gan ddweud sut rydych chi’n teimlo.
Mae rhai rhieni’n teimlo ei bod hi'n help siarad ag elusennau neu grwpiau cymorth, ac mae gan lawer ohonyn nhw grwpiau a fforymau ar-lein erbyn hyn. Gallwch ddod o hyd i rieni eraill sydd â phrofiadau tebyg i’ch rhai chi, i rannu’r dyddiau da a’r dyddiau gwael. Er enghraifft, mae gan Afasic, – elusen i gefnogi rheiny sydd ag anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu – grwpiau Facebook a grwpiau cymorth lleol.
Os oes gan eich plentyn anghenion cyfathrebu neu ddysgu, mae digonedd o fudiadau a grwpiau cefnogol ar gael hefyd, gan gynnwys Awtistiaeth Cymru a’r Down's Syndrome Association (does dim angen i’ch plentyn fod wedi cael diagnosis eto er mwyn cael y cymorth hwn).

Dod o hyd i gymorth yn eich cymuned
Mae cyfleoedd i dreulio amser gyda phlant eraill yn wych i helpu plant i ddysgu siarad.
Mae’r cymhelliant i sgwrsio â phlant eraill, a’r cyfleoedd i ddysgu oddi wrth ei gilydd, yn gallu rhoi hwb gwirioneddol i sgiliau cyfathrebu plant.
Manteisiwch ar eich canolfan leol i blant, sy’n aml yn cynnal grwpiau ar gyfer rhieni a phlant, ac a allai fod â grwpiau cymorth i rieni hefyd. Os yw’ch plentyn yn mynd i feithrinfa neu ysgol feithrin, siaradwch â'r staff am eich pryderon.
Byddan nhw wedi gweithio gyda llawer o blant gwahanol dros y blynyddoedd, ac efallai y byddan nhw hefyd yn gallu awgrymu pethau i helpu, neu ddweud a yw hi’n bryd siarad â’ch meddyg teulu neu therapydd lleferydd ac iaith. Gallwch hefyd ddweud wrthyn nhw beth sy’n helpu eich plentyn gartref.
Cael help arbenigol
Chi yw’r arbenigydd gorau ar y ffordd mae’ch plentyn yn cyfathrebu!
Ar ôl treulio llawer o amser yn siarad ac yn chwarae gyda'ch plentyn, ac ar ôl siarad â theulu, ffrindiau a staff blynyddoedd cynnar sy'n adnabod eich plentyn, bydd gennych chi lawer o wybodaeth i'w rhannu am sut mae’ch plentyn yn cyfathrebu.
Gall nifer o weithwyr iechyd proffesiynol roi cyngor cychwynnol i chi, eich helpu i ganfod a oes rheswm dros anghenion cyfathrebu’ch plentyn (rhywbeth nad yw bob amser yn bosibl) neu egluro beth sy’n gallu bod yn help.
- Os ydych chi’n dal i gael ymweliadau gan ymwelwyr iechyd, siaradwch â nhw am eich pryderon.
- Bydd eich meddyg teulu yn gallu rhoi arweiniad i chi ynghylch a oes angen i'ch plentyn gael archwiliad mwy cyflawn o'i ddatblygiad gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill. Gallai’r rhain gynnwys…
- Awdiolegydd: Mae awdiolegydd yn gallu adnabod problemau clyw yn gynnar yn natblygiad eich plentyn. Yn aml iawn, prawf clust yw’r lle gorau i ddechrau os oes gennych chi bryderon am ddatblygiad cyfathrebu'ch plentyn, hyd yn oed os ydych chi’n meddwl ei fod yn clywed yn iawn.
- Pediatregydd: Mae Pediatregydd yn feddyg plant arbenigol sy’n gallu edrych ar ystod eang o sgiliau symud, dysgu a chyfathrebu eich plentyn, er mwyn rhoi darlun ehangach o’i gryfderau a’i anawsterau.
- Therapydd lleferydd ac iaith: Mae Therapydd lleferydd ac iaith yn gallu helpu’ch plentyn i ddatblygu sgiliau cyfathrebu cynnar heb ddefnyddio geiriau, fel cymryd tro, a’i helpu drwy’r broses nes bydd yn ffurfio geiriau, brawddegau a sgyrsiau.

Sut mae paratoi ar gyfer apwyntiad
Cofiwch, efallai fod gweithwyr proffesiynol fel therapyddion lleferydd ac iaith yn arbenigwyr ym maes datblygiad plant, ond rydych chi’n gwybod popeth am eich plentyn. Mae hi’n hawdd anghofio pethau pan fyddwch chi mewn apwyntiad, felly cyn i chi fynd:
- Ysgrifennwch unrhyw gwestiynau rydych chi eisiau ateb iddyn nhw.
- Dewch o hyd i gofnod iechyd eich plentyn (llyfr coch) er mwyn i chi allu mynd ag ef gyda chi.
Yn ystod yr apwyntiad:
- Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n deall beth maen nhw’n ei ddweud wrthych chi.
- Cofiwch ganolbwyntio ar beth mae angen i'ch plentyn allu ei wneud, a beth mae’n gallu ei wneud, yn ogystal â beth nad yw’n gallu ei wneud.
- Gofynnwch sut gallwch chi helpu’ch plentyn gartref.
Cofiwch: yr unig beth mae’r gweithiwr proffesiynol ei angen gennych chi er mwyn gallu helpu yw eich gwybodaeth am eich plentyn, a’ch cariad tuag at eich plentyn.
Does dim rhaid i chi wneud popeth yn yr erthygl yma ar unwaith. Os ydych chi’n poeni am sgiliau siarad eich plentyn, efallai mai cychwyn yn rhywle – chwarae ychydig o gemau, edrych ar wefan neu roi neges mewn fforwm – fydd y cam cyntaf i helpu’ch plentyn i sgwrsio!
